SL(5)031 – Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Achosion gerbron Paneli) 2016

Cefndir a Phwrpas

Mae adran 174(1) o’r Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (“y Ddeddf”) yn ei gwneud yn ofynnol i Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) wneud rheolau er mwyn sefydlu paneli apelau cofrestru, paneli addasrwydd i ymarfer a phaneli gorchmynion interim (“y paneli”). Mae adran 174(6) a (7) o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i GCC wneud rheolau ynghylch, er enghraifft, penodi personau yn aelodau panel a datgan a chofrestru buddiannau preifat aelodau o’r fath. Mae adran 174(8) o’r Ddeddf yn rhoi’r pŵer i GCC i wneud rheolau ynghylch cyfansoddiad a gweithrediad y paneli ac yn darparu bod rheolau o’r fath yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth a wneir gan Weinidogion Cymru o dan adran 175 o’r Ddeddf (sy’n rhoi pŵer i Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau ar gyfer achosion ac mewn cysylltiad ag achosion sydd wedi eu dwyn o dan y Ddeddf hon gerbron y paneli).

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch achosion gerbron paneli apelau cofrestru.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch achosion gerbron paneli addasrwydd i ymarfer.

Mae Rhan 4 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynghylch achosion gerbron paneli gorchmynion interim.

Gweithdrefn

Negyddol

Craffu Technegol

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Craffu ar rinweddau

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn (Rheol Sefydlog 21.3(ii): bod yr offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad).

Mae’r Rheoliadau’n cael eu gwneud o dan adrannau o Ddeddf 2016 sydd ddim mewn grym eto. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yr adrannau perthnasol o Ddeddf 2016 mewn grym erbyn 3 Ebrill 2017 (hynny yw, y dyddiad y mae’r Rheoliadau’n dod i rym). Er nad yw’r adrannau perthnasol o Ddeddf 2016 mewn grym ar hyn o bryd, mae Gweinidogion Cymru yn gallu gwneud y Rheoliadau trwy ddibynnu ar adran 13 o Ddeddf Dehongli 1978 sydd yn galluogi rhai pwerau i gael eu gweithredu cyn i’r adrannau perthnasol o Ddeddf 2016 ddod i rym.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

28 Tachwedd 2016